SL(5)320 – Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2019

Cefndir a Phwrpas

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (O.S. 1992/613) (“Rheoliadau 1992”).

Mae rheoliad 2 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 1992 i ddileu pŵer awdurdodau bilio yng Nghymru i wneud cais i lys ynadon am ddyroddi gwarant i draddodi dyledwr treth gyngor i garchar.  Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol.

Gweithdrefn

Negyddol

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Nodwyd y pwynt canlynol i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 (ii)  mewn perthynas â’r offeryn hwn - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu e fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Mae’r Rheoliadau yn dileu gallu awdurdodau lleol i wneud cais am warant i garcharu dyledwyr treth gyngor i garchar.  Er nad yw’r Memorandwm Esboniadol yn nodi’r nifer sy’n cael eu carcharu’n flynyddol yn dilyn gwarant o’r fath, bydd y Rheoliadau yn lleihau’r nifer sy’n cael eu carcharu am gyfnod byr.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

15 Chwefror 2019